• Hafan
  • Hyfforddi
  • Aelodaeth
  • Newyddion
  • Amdanom Ni
  • Cysylltu
  • English
Clwb Nofio Meistri Sir Gâr
Dilynwch ni ar

Hyfforddi

Mae’r clwb yn cynnig tri sesiwn awr o hyd yr wythnos gyda hyfforddwr.  Gall nofwyr fynychu cynifer neu gyn lleied ag y mynnant o’r sesiynau hyn.  Rydym yn defnyddio tair lon o’r pwll ac mae’r hyfforddwr yn ein rhannu i grwpiau fel ein bod yn nofio gyda rhai o gyflymder tebyg i ni. 

Mae Pete, ein hyfforddwr, yn ddyfeisgar dros ben yn llunio setiau hyfforddi fel bod rhywbeth newydd o hyd ar ein cyfer.  Os ydych yn gweithio tuag at gol penodol, gallwch drafod hyn gyda’r hyfforddwr ac fe fydd yn llunio sesiynau hyfforddi ar eich cyfer a fydd yn gymorth i chi.


Amserau Hyfforddi

Rydym yn ymarfer tair gwaith yr wythnos o Fis Med i Orffennaf ar yr amserau canlynol:

Dydd Mawrth, 9.00 - 10.00yp

Dydd Iau, 9.00 - 10.00yp

Dydd Sul, 8.00 - 9.00yb

Ein Hyfforddwr

Hyfforddwr y clwb yw Pete Randall. Cafodd Pete ei eni a’i fagu yng Nghaerfyrddin ac fe fu’n nofio a chwarae polo dwr ers 25 mlynedd. Mae Pete yn hyfforddi Clwb nofio Caerfyrddin a’r fro (o dan 18 oed), a Thîm Polo Dwr Cymru dan 18, yn ogystal â chlwb Nofio Meistri Caerfyrddin.  Mae ganddo Gymhwyster Lefel 1 mewn hyfforddi polo dwr.
Picture
Picture

Ble Rydym yn Nofio

Picture
Rydym yn nofio ym mhwll nofio 25m Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Ffordd Llansteffan, Tre Ioan, Caerfyrddin, SA31 3NQ.  

Powered by Create your own unique website with customizable templates.