Amdanom Ni
Sefydlwyd Clwb Nofio Meistri Sir Gar yn 2001 ac mae’r clwb yn aelod o Nofio Cymru (WASA gynt).
Mae’r clwb yn bodoli i ddarparu oedolion o bob gallu i hyfforddi a/neu gystadlu mewn awyrgylch gyfeillgar. Lliwiau’r clwb yw glas ac aur. Mae’r clwb yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac fe etholir pwyllgor rheoli yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol. Y swyddogion presennol yw: Cadeirydd: Tim Howells Trysorydd: Gareth Jones Ysgrifennydd: Veronica Banks Swyddog Lles: Sian Dallimore Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y clwb, cysylltwch â ni. Beth yw Clwb Nofio Meistri?
Yn ystyried eich hun yn rhy hen i fod yn ymwneud â nofio neu’n meddwl fod cystadlu yn amhosib? Ystyriwch eto! Ceir nofwyr sy’n fwy na 100 oed yn cymryd rhan mewn nofio meistri. Yn wir, mae ein haelod cystadleuol hynaf ni yn fwy na 70 oed.
Dechreuodd nofio meistri yn UDA yn y 1970au, pan drefnodd rhai cyn-gystadleuwyr elite gystadleuaeth i oedolion. Yn awr, mae’r gamp wedi lledaenu ar draws y byd. I fod yn gymwys i fod yn nofiwr ‘Meistri’ mae angen i chi fod yn 25 oed neu fwy. Mae cystadlaethau meistri yn cael eu trefnu mewn bandiau o bum mlynedd oed, o 25-29 i fyny fel y bo’r galw. Y bad hynaf hyd yma yw 100-104, a cheir band 18-24 mewn sawl cystadleuaeth. Mae nofio Meistri yn croesawu pawb, pa reswm bynnag y bont yn nofio. Eich dewis chi yw pa mor bell i fynd gyda’r system nofio meistri. Yn ganolog i bob clwb nofio meistri fodd bynnag, y mae’r amcanion cyffredinol o wella iechyd, gwella ffitrwydd a chyfeillgarwch. |
Beth yw Nofio Meistri?
'Yn syml, nofio i oedolion yw nofio meistri. Mae'n cwmpasu ystod cyfan o alluedd, o ffitrwydd hamddenol i nofio trefnus a chystadleuol.' |
Gwybodaeth am y Clwb
Dilynwch y cysylltiadau isod i gael dogfennau a pholisiau'r clwb:
Cyfansoddiad Clwb Nofio Meistri Sir Gar (Saesneg yn unig)
Gwybodaeth i Aelodau Newydd
Polisi Diogelwch (Saesneg yn unig)
Disgrifiadau Swyddi (Saesneg yn unig)
Cod Ymarfer ar Gyfer Gwirfoddolwyr (Saesneg yn unig)
Cyfansoddiad Clwb Nofio Meistri Sir Gar (Saesneg yn unig)
Gwybodaeth i Aelodau Newydd
Polisi Diogelwch (Saesneg yn unig)
Disgrifiadau Swyddi (Saesneg yn unig)
Cod Ymarfer ar Gyfer Gwirfoddolwyr (Saesneg yn unig)