• Hafan
  • Hyfforddi
  • Aelodaeth
  • Newyddion
  • Amdanom Ni
  • Cysylltu
  • English
Clwb Nofio Meistri Sir Gâr
Dilynwch ni ar

Aelodaeth

Yn ystod eich wythnosau cyntaf, ni chodir tal aelodaeth er mwyn i chi gael cyfle i benderfynu ai ymuno neu beidio. Yna, byddwch yn talu ffi hyfforddi o naill ai £16 neu £27 y mis, yn dibynnu ar ba mor aml y byddwch yn bwriadu nofio. Mae’n ofynnol i bob aelod gofrestru gyda Nofio Cymru, sy’n costio £34 y flwyddyn.

I nofwyr sy’n ymuno o glybiau eraill, mae gennym ffurflenni trosglwyddo Nofio Cymru a hefyd ffurflenni aml-glwb.

Dylai unrhyw nofwyr sy’n cymryd meddyginiaethau rheolaidd lenwi ffurflen meddyginiaethau Nofio Cymru.

Ymuno

Nid oes angen i chi fod wedi bod yn nofiwr cystadleuol i ymuno a ni.  Y cyfan sydd angen yw eich bod yn gallu nofio nifer hyd y pwll yn gyfforddus cyn cael seibiant.

Nid oes gwahaniaeth chwaeth os na allwch nofio ym mhob dull gan y bydd Pete yn awgrymu dull arall i weddu’r set hyfforddi pe bo angen.  Yn ogystal, os hoffech ddysgu dull newydd, fe all Pete roi cymorth i chi gyda hyn. Os ydych yn nofiwr cryf a chystadleuol, bydd y setiau amrywiol a’r hyfforddi yn gymorth i chi wella eich stamina a’ch cyflymder.

Caiff unrhyw un sy’n ystyried ymuno bythefnos o nofio am ddim cyn dod i benderfyniad.  Os oes gwnnych unrhyw ymholiadau neu os hoffech siarad â rhywun cyn dod i’r pwll. Cysylltwch, a byddwn yn fwy na bodlon i fod o gymorth.  Mae croeso i chi hefyd ddod i’r pwll ar eich liwt eich hun ar ddechrau unrhyw sesiwn.  

Gwybodaeth i Aelodau Newydd
Picture


Powered by Create your own unique website with customizable templates.