Mae Clwb Nofio Meistri Sir Gâr yn glwb nofio cyfeillgar i oedolion. Mae gennym aelodau o alluoedd ac oedrannau amrywiol sy’n nofio er mwyn cadw’n heini, a thra bo rhai yn cystadlu, mae eraill yn nofio er mwynhad yn unig.
P’un ai nofio er mwyn gwella eich techneg, ffitrwydd neu stamina yw eich bwriad, neu os ydych wedi diflasu ar nofio yn ôl ac ymlaen ar eich pen eich hun a’ch bod yn chwilio am sesiynau i’ch cymell, mae croeso i chi ymuno â ni. Rydym yn cwrdd tair gwaith yr wythnos yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin am hwyl ac am hyfforddiant, ac rydym yn anelu i ddarparu cyfle i nofwyr o bob gallu i wella eu techneg, i hyfforddi neu i gystadlu. Rydym yn meithrin awyrgylch gyfeillgar er mwyn i unigolion gael cyflawni eu nodau a’u hamcanion unigol. Mae ein nofwyr yn amrywio mewn oed o’r arddegau hwyr i 70+. Mae rhai wedi cystadlu pan yn ifanc, ac eraill heb ddysgu nofio nes eu bod yn 40. Mae rhai yn ymarfer ar gyfer cystadlaethau, ar gyfer triathlon a rhai ar gyfer nofio mewn dŵr agored, felly does dim aelod nodweddiadol i gael. Rydym, fodd bynnag, i gyd yn rhannu cariad at y gamp ac awydd i wella ein techneg nofio a’n ffitrwydd. Rydym yn croesawu aelodau newydd drwy’r amser, felly bwriwch olwg a cheisiwch sesiwn neu ddau gyda ni. |